Wythnos diwethaf mi es i Gaerdydd gyda’r bwriad o brynu gwely newydd yn John Lewis. Hynny a mynd â phâr o byjamas yn ôl i Marks and Spencer.
Y pyjamas yn gyntaf: i mewn â fi i’r adran gwasanaeth cwsmeriaid ac aros fy nhro. “Sori, rydach hi’n rhy hwyr: mi wnaethoch chi brynu’r pyjamas am £35.00 ond maen nhw wedi bod yn y sêl am £7.99 felly dyna’r cyfan y gallwn ni gynnig i chi.” (Yn Saesneg, ynte; dwi wedi cyfieithu…) Afraid dweud nad oeddwn i’n rhy hapus, a dyma drafod ychydig gyda’r aelod o staff: roedd y pyjamas yn anferth, llawer mwy na’r maint ar y label; finnau’n cael cemotherapi, felly anodd teithio i lawr i Gaerdydd o’r Fenni.
Dim yn tycio. Methiant cyntaf y diwrnod.
Draw i John Lewis er mwyn prynu gwely, a chael “Partner” oedd yn brysur gyda gwaith papur ac yn awyddus i ddweud beth oedd yn amhosib ei brynu, yn hytrach na beth oedd ar gael. Dim gwely felly. Amser i gael paned a chacen i ystyried y sefyllfa a gwneud cynlluniau amgen.
I fyny â fi i’r trydydd llawr i gael darn o gacen siocled heb laeth a phaned o de gyda llaeth soya, fel arfer. Edrych ymlaen. “Sori, mae’n cyflenwyr cacenni ni wedi newid, a does gyda ni ddim cacenni heb laeth bellach.” (cyfieithu eto…) Dim paned felly – y gacen oedd yn temtio rhaid cyfaddef, yn fwy na’r te…
Os nad oedd John Lewis yn gallu gwerthu gwely i fi, siawns nad oedd un addas yn Howells! Cerdded draw i adran y gwelyau (pen draw’r byd, fel y gwyddoch chi os ydych chi wedi gwneud yr un daith…) Diffeithwch, gyda neb o gwmpas, na chwsmeriaid na staff. Mynd i chwilio am rywun a gofyn am wybodaeth. “Sori, dydi Martin ddim i mewn heddiw, a dim ond Martin sy’n gwybod am y gwelyau.”
Erbyn hyn roeddwn i’n dechrau anobeithio. Tipyn o “retail therapy” amdani. (Allwch chi ddim cyfieithu popeth!) Mynd i adran y dillad ac anelu am fy hoff frand, sef Gerard Darel: mwynhad i’w gael wrth edrych, os nad prynu. Ond beth oedd yn y lle arferol ond bwlch mawr trist gyda stondinau o ddillad cymysg fel jymbl sêl ar goll. “Mae nhw wedi cau’r adran; yn Llundain y mae’r gangen agosaf bellach.”
Dyna ddiwrnod. Mynd adref yn waglaw: dim gwely, dim cacen, dim llwyddiant.
Diolch byth, dydi pob diwrnod ddim yr un fath. Y diwrnod wedyn, mi es i Grughywel, a phrynu gwely perffaith mewn siop leol (Webbs) oedd yn cynnig popeth yr oeddwn i eisiau gyda gwasanaeth ardderchog a phris rhesymol. Wedyn gyrru adborth i John Lewis am saga’r gwelyau a ffonio M & S am y pyjamas. JL yn e-bostio a ffonio’n ôl o fewn ychydig oriau – doedd fy mhrofiad “ddim yn cwrdd â’n safonau arferol.” Diolch am y sylwadau – voucher ar ei ffordd. Menyw yn adran Gwasanaeth Cwsmeriaid canolog M&S yn ddigon bodlon i yrru gwerth lawn y pyjamas ata’i, dim ond i fi eu gyrru’n ôl (pam nad oedd y bobl yn y siop yn cael gwneud hynny?)

Sawl gwers i’w dysgu felly ar ôl profiadau cymysg: dyfalbarhau; edrych yn lleol gyntaf, a pheidio ag anobeithio ar ôl un diwrnod digalon – mae un gwell yn siŵr o fod rownd y gornel.