Nos Fawrth diwethaf daeth yr Athro E Wyn James i roi sgwrs i gymdeithas hynafol Cymreigyddion y Fenni ar Ddyddiau Chwyldro yn y Bala: Thomas Charles, Ann Griffiths a Mary Jones. Sefydlwyd Cymreigyddion y Fenni ymron i ddwy ganrif yn ôl, yn nyddiau Arglwyddes Llanofer, ac mae’n dal i gwrdd bob mis rhwng Medi a Gorffennaf, gyda nifer fawr o ddysgwyr brwd bellach yn cyfoethogi’r gymdeithas.
Ddwy flynedd yn ôl, daethai gwraig Wyn James, yr Archdderwydd Christine James, i’n hannerch ni am ei phlentyndod a’i thaith o fod yn ddysgwraig yn y Rhondda i ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005. Cofiaf hefyd, ychydig cyn hynny, am ymweliad Mererid Hopwood â ni: rywsut (peidiwch â gofyn!) fe’i perswadiodd ni i sefyll ar ein cadeiriau a gweiddi llinellau o gynghanedd gyda’n gilydd…
Y tro hwn cafodd y gynulleidfa (ddethol!) yn Neuadd y Pentref Llanffwyst gipolwg ddiddorol iawn ar hanes Methodistiaeth ardal y Bala yn y ddeunawfed ganrif, a theimlo ein bod ni’n adnabod Thomas Charles dipyn yn well ar ddiwedd y noson nag o’r blaen. I fi, roedd y cyd-destun Ewropeaidd yn ddiddorol, ar ôl astudio elfennau o athroniaeth Ffrengig y 18fed ganrif rai canrifoedd yn ôl (mae’n teimlo felly…) ym Mangor. Doeddwn i ddim wedi cysylltu Methodistiaeth ag athronwyr fel Jean-Jacques Rousseau a’u syniadau am ddemocratiaeth a grym y boblogaeth o’r blaen.
Mae rhaglen Cymreigyddion y Fenni eleni yn dirwyn i ben o fewn yr wythnosau nesaf, gyda thaith gerdded dan arweiniad Jeff Davies ddiwedd y mis a barbeciw ddiwedd mis Gorffennaf. Bu’n flwyddyn arbennig, gyda’r darlledydd Vaughan Roderck a’r nofelydd Ioan Kidd ymhlith y siaradwyr gwadd. Tybed beth fydd yr arlwy flwyddyn nesaf, gyda nifer o aelodau’r Cymreigyddion yn chwarae rhan mor flaenllaw yn y paratoadau ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r Fenni?
Os oes diddordeb gennych, gellwch gael gwybodaeth am raglen Cymreigyddion y Fenni trwy holi post@cymreigyddion.org,uk Mae croeso cynnes bob amser i aelodau newydd!